Croeso i wefan
Ysgol Bro Tryweryn!
Dyma wefan Ysgol Bro Tryweryn. Mae llawer o hanes i’n hysgol ni – mae safle’r ysgol ar dir hen garchar Gwyddelig a
Ffatri Wisgi enwog Stâd Rhiwlas. Mae gennym gerflun o waith Neil Dalrymple a’r plant y tu allan i’r ysgol yn dangos holl
hanes yr ardal.
Mae llawer o blant yn dod o ardaloedd gwahanol i’r ysgol – Llidiardau, Rhyduchaf, Maesywaen, Parc, Y Bala, Frongoch,
Cwmtirmynach a Llangwm. Ar hyn o bryd, mae 59 o blant yn yr ysgol ac mae gennym 2 dosbarth sef Arenig Fawr ac
Arenig Fach.
Rydym yn gwneud llawer o weithgareddau gwahanol drwy’r flwyddyn gan gynnwys chwaraeon – rygbi, pêl-droed,
rownderi, criced, pêl-rwyd, nofio a mabolgampau. Mae gennym glybiau gwahanol cyn ac ar ôl ysgol – Clwb Brecwast,
Clwb Coginio, Clwb Cyfrifiaduron a rydym wedi bod yn derbyn gwersi Sbaeneg hefyd! Rydym yn cystadlu bob blwyddyn
yn Eisteddfod yr Urdd, ac yn gwneud cyngherddau diolchgarwch a Nadolig i’r ardal leol.
Criw y Cyngor Ysgol
•
Datganiad Preifatrwydd 2019
Cysylltu
Ysgol Bro Tryweryn
Frongoch
Y Bala
Gwynedd
LL23 7NT
Ysgol Bro Tryweryn © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs