Mae ardal Frongoch yn berwi mewn hanes! Yn 1897 sefydlwyd ffatri wisgi yma gan R.J.Lloyd Price, wisgi oedd yn cael ei greu gan ddŵr mawnog afon Tryweryn sydd ger ein hysgol ni. Ar ôl i’r ffatri gau, daeth ymwelwyr annisgwyl o’r Almaen ac yna o Iwerddon yma. Nawr roedd y safle wisgi wedi troi yn garchar rhyfel. Yn 1916 roedd y Gwyddelod wedi bod yn ymladd am ryddid am wythnos yn Nulyn, cyn cael ei harestio a’u hanfon i wersyll rhyfel dros Brydain. Ond i Frongoch oedd nifer mawr iawn wedi cael ei hanfon. Roedd dau wersyll, camp y gogledd sef y cae dros y ffordd i’r ysgol, a camp y de sef lleoliad ein hysgol ni!